Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd Mr. Forster ei hun fod llai o ladd ac o ladrata yn Iwerddon y flwyddyn hon nag a fu ers blynyddoedd lawer; a phrofodd Mr. Parnell ac eraill mai yn y parthau hynny lle y mae dylanwad y Cynghrair Tirol fwyaf y mae lleiaf o drais. Y mae'n hysbys fod mwy o lofruddio ac o ladrata mewn un wythnos yn Llundain nag sydd mewn mis yn yr holl Iwerddon, ond gan fod llofruddion Llundain yn ddigon call i arbed lords ac agents, ac i fwrw eu llid yn gyfangwbl ar eu cydradd—megis eu mamau, eu brodyr, a'u cariadau—ni chedwir nemor o dwrf ynghylch eu gweithredoedd.

*

Y mae rhai, gan faint eu hawydd i fod yn fwy Cristnogol na Christ, yn pregethu y dylem ni'r Cymry garu ein hysbeilwyr yn fwy na phe buasent yn genedl onest, a hynny heb ofyn ganddynt nac edifeirwch nac iawn. Yr ydym wedi bod cyhyd mewn caethiwed, ac wedi ymddygymod cystal â fo, fel na fynn y rhan fwyaf ohonom gredu eu bod mewn caethiwed. Y mae gwifrau ein cawell mor anweledig o feinion, a'r Saeson annwyl yn ein porthi mor ofalus â briwsion a dwfr, fel yr ydym yn tosturio wrth yr adar rhyddion, druain, sy'n chwilio'n ofer am damaid ar hyd y meysydd, ac am glwyd glyd yn y perthi di-ddail. Byddai mor anodd i