Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod y Cymry yn well na hwynt, nac yn gystal a hwynt; canys pa fodd y gall dynwaredwyr fod yn well na'r rhai a ddynwaredant?.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 27, 1876.

Ond ni byddai raid i'r Telegraph arswydo cymaint rhag dylanwad yr eisteddfodau "cenedlaethol." Meddwl yr wyf i eu bod, yn y wedd sydd arnynt yn awr, yn gwneuthur mwy i fagu Saesnigaeth nag i goleddu'r iaith Gymraeg. Felly, yr achos paham yr wyf i'n anghymeradwyo'r eisteddfodau ydyw eu bod yn llawer rhy lân oddi wrth y "bai" arbennig a rydd y Telegraph yn eu herbyn. Gwnaethpwyd eisteddfod yn anfuddiol i'r Cymry pan aethpwyd i'w chyfaddasu i'r Saeson.

ALLAN O'R Faner, EBRILL 23, 1879.

Y mae un peth yr wyf innau'n dechrau 'laru arno, sef dolefain digllon y Saeson uwch ben y naw neu ddeg o arglwyddi tirol ac o oruchwylwyr anghyfiawn a saethwyd y flwyddyn hon yn Iwerddon, a hwythau, bobl waedlyd ac ysbeilgar, heb orffen llawenhau oblegid y miloedd o ddynion amgenach a saethwyd yn Asia ac yn Affrig. Addef-