Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n wir bod y môr, wrth ddygyfor, yn bwrw allan fwy na digon o dom a llaid; ond pe peidiai â dygyfor, ef a drôi yn ferllyn, ac a fagai hen gasnach gwyrdd sebonllyd, a phenbyliaid ysgoewan, a llygod duon llechwrus, a llyffaint defosiynol yr olwg. Yn wir, Syr, y mae ysbwrial y môr yn dda i rywbeth; ond pa beth, tybed, a ellir ei wneud ag epil dwfr merllyd? . . Buasai Iwerddon yn awr mor ddi-nod â Chymru, druan, onibai bod rhyw angel o wladgarwr yn disgyn ar amserau i gynhyrfu'r dwfr. Tystia Thierry, yr hanesydd Ffrangeg, fod Tywysogaeth Cymru, yn amser Llywelyn ap Iorwerth, yn fwy gwâr a menwydus—hynny ydyw, yn fwy intellectual, na phob cenedl arall yn Ewrop; ac yr wyf yn tybied y gallasai'r wlad fach honno, fel gwlad Canaan gynt, fod yn oleuni i'r cenhedloedd o hynny hyd yn awr, pe codasai ynddi chwaneg nag un Ywain Glyn Dŵr i bwtian y tân.

***

Ni ddichon dyn fod yn ffyddlon i'w genedl ei hun heb fod yn anffyddlon i'r genedl y byddo'n ddarostyngedig iddi. Bu pob Gideon yn wrthryfelwr; bu pob Ystephan yn heretic—yng ngolwg rhywrai. Ond tybed ei bod yn weddus i chwi a fu'n