Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

carcharu gwladgarwyr byw, daenu blodau ar feddau gwladgarwyr meirwon?

ALLAN O'R Faner, MAWRTH 15, 1882.

Pleidiaf bob cynigiad a gynigier i leihau cyflogau'r teulu brenhinol a'u lluosog weision di—les; i leihau traul y fyddin a'r llynges, y rhai a gedwir er mwyn gormes a gwag ogoniant; i leihau'r trethoedd a'r tollau anghymedrol sy'n llethu'r werin, ac i leihau'r holl segur—swyddau a grewyd ar gyfer gwenyn gormes.

ALLAN O'R Faner, MAI 3, 1882.

FONEDDIGION,

Gan fod Cristionogion, gan mwyaf, yn amser rhyfel yn llefaru nid yn unig fel ynfydion, ond hefyd fel anffyddwyr, bydd yn dda gan y gweddill sy'n hoffi gwirionedd a chyfiawnder gael tystiolaeth bod yr anffyddwyr yn llefaru'n bur Gristionogol. Byddai'n dda i ninnau fod yn fwy anffyddol mewn rhyw ystyr, canys pe baem felly, ni byddai mor hawdd gennym draflyncu'r celwyddau amlwg ac anghyson a ddywedir am y Mahdi a'i ddilynwyr gan ddyhirod sy'n ymelwa ar hygoeledd, balchder, a