Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor grisial glir gan Emrys ei hun, ofer fyddai rhoi crynodeb ohoni yma. Amcanwyd dethol yn y fath fodd ag i amlygu amrywiol agweddau o'r neges gyfoethog hon. Ysgrifennodd lawer ar gymeriad cenedlaethol y Cymro, y Sais, a'r Gwyddel. Cynhwysir Bully, Taffy a Paddy yn unig; ac o'r toreth a ysgrifennodd yn ffafr Ymreolaeth i Iwerddon ni cheir yma ond yr erthygl hon. Yr un modd, y mae ei neges wleidyddol i Gymru yn gyfan yn Paham y Gorfu yr Undebwyr. Yr ateb yw am eu bod yn 'Undebwyr,' a hefyd am eu bod yn apelio at reddfau parhaol y genedl Seisnig. Gofyn Emrys ymhle y mae gwleidyddwyr Cymru yn sefyll yn wyneb hyn, a chaiff eu bod yn rhanedig rhwng gwrthbleidiau a reolir o Lundain, ac yn ail, eu bod yn apelio at bethau eilbwys ym mywyd Cymru. Oblegid hynny ni wiw iddynt ddisgwyl ennyn sêl ac ymlyniad cyffelyb i lwyddiant yr Undebwyr yn Lloegr. Sôn am bethau ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd Emrys wrth gwrs, ac nid am ein hoes ni.

Ceir yma enghraifft o ffrwyth ei gariad angerddol at yr iaith yn y Gair at Rieni Cymreig yn anad unlle, ac y mae'r gacynen ar ei mwyaf pigog pan gaiff gyfle ar Paul yn ei ddillad newydd! Yr oedd ariangarwch a Sais-addoli yn atgas gan Emrys, ac fe gafodd ei gyfle arnynt yn Wele dy Dduwiau, O