Walia! Cerydd cariad oedd pob cerydd a roes i Gymru, a phwy a wad ei hawl i'w rhoi ar ôl ystyried maint ei ymdrech er ei mwyn? Ffieiddiai hunangyfiawnder, ac yn enwedig pan gerddai law-yn-llaw â gormes. Am hynny yr oedd 'llwyddiant' yr Ymerodraeth i ymestyn ei therfynau trwy 'ryfel cyfiawn' yn anathema iddo. Ni byddai ei wawd byth yn greulonach nag wrth chwalu'n gandryll 'hanes' y rhyfeloedd hyn fel y ceid yn y Wasg Saesneg. Un ysgrif o fysg llawer o'r fath yw'r Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel.
Eithr y cyfle mawr a luniodd Emrys iddo'i hun i bortreadu Cymru ei ddydd yn ei chyfanrwydd oedd y ddau Lythyr Alltud. Yno y craffai ar ei bresennol gyda'r un medr ag a amlygodd yn y Breuddwyd Pabydd wrth ddyfalu dyfodol. Yr oedd ei lygad yr un mor graff hefyd yn gweld i'r gorffennol fel y gall y darllenydd farnu wrth ddarllen ei hanes o ymgyrch olaf Napoleon, sef O Elba i Waterloo. Gellir dal mai'r gwaith olaf hwn yw'r perffeithiaf ei gelfyddyd a luniodd erioed. Y mae'r portread o Napoleon a Blücher a Wellington yn ddiguro, a dangosodd eu hawdur fod ganddo ddoniau nofelydd gwrthrychol. Y mae'n herio rhai o ragfarnau anwylaf ei oes yn yr 'ochr' a ddengys, a medrused ei amddiffyn. Mawr oedd ymffrost ei