Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes yn ei rhyddfrydigrwydd,' chwedl Emrys ap Iwan, ac onid oedd Napoleon yn "ŵr a wnaed yn Ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth"? Ond prif gamp y darn cyffrous hwn yw amlder, ystwythder, ac uniongyrchedd y Gymraeg, ynghyd â'i gyfanrwydd cryno diŵyro, a'i drefniant. Anodd meddwl am ddarn cyhyd ag ef yn ein holl lenyddiaeth sy'n meddu'r rhagorion hyn i gymaint graddau wrth ddisgrifio ac adrodd un hanes cyflawn.

Nid oes dim camystumio ar yr iaith wrth ymdrin â phethau milwrol. Y mae'r eirfa yn wobr mynnu meddwl yn wastadol yn y Gymraeg a meddiannu ei holl adnoddau: gosgordd, marchoglu, gwarchod-lu, maeslywydd, cadlywydd, rhagfilwyr, ffwndrus, cilgwthio, magnelwyr, taethegwr, stradegydd, pencadlys, corfflu, cyfunoliaid.

Ar gyfer y llyfr hwn fe ddiweddarwyd yr orgraff a'r gystrawen yn gyson ag arferiad ein hoes. Ysgrifennwyd rhai o'r ysgrifau ganddo mewn orgraff oedd yn arbennig iddo ef ei hun, ac eraill yn ôl arfer gyffredin ei ddydd. Yr unig gysondeb posibl oedd yr hyn a wnaed, sef trwy ddiweddaru. Mân frychau cystrawen yn unig oedd gofyn am eu symud, gan fod gafael Emrys ar iaith ein clasuron rhyddiaith mor gadarn. Ni ofalai roi rhagenw o flaen enw neu