Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferfenw pan fyddai ffurfiau fel ei hun, &c., yn dilyn. Nid arferai'r cywasgiadau sydd mor hwylus pan fo'r fannod yn dilyn llafariad. Mwy anghywir. ganddo yw arfer ffurfiau fel o fy, &c., yn lle o'm. Yn fyr, fe symudwyd cryn lawer o'r cyfryw feflau yn unol â'n synnwyr drannoeth ni, ond gochelwyd rhag newid y geiriau sy'n nodweddiadol o Emrys ei hun, megis llenoriaeth, cenhedlig ('cenedlaethol' yw ystyr hwn bob tro ganddo), Cristiolus ('Cristnogol yn yr ystyr o fod yn 'Grist-debyg'), pleidebu, bwrnel, hendid, digofus, corffol, prestig, celfor(ion), dyfyn(ion), anniolchus, Rhyddfrydigion, dargeisio, tlodaidd, gwrthwynebrwydd, calleiddio, cydymlapio (gwell o lawer, debygaf i, nag 'oferlapio'!), politegwr, penddarol. Y mae i'r ffurfiau hyn wir ddiddordeb parhaol fel ffrwyth ymboeni llenor mawr i gymhwyso'r iaith i bwrpas newydd. Pwy na theimla rym geiriau fel 'Seisyn' a 'Chymroaidd'? Yr un modd, ni 'chywirwyd' y ddeuair 'gormodd' a 'boddlon': y rhain yw'r ffurfiau a ddefnyddir bob amser gan Emrys, a gellir dadlau'n gryf trostynt.

Y mae fy nyled yn drom i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei barodrwydd i roi o'i amser gwerthfawr i ddarllen llawysgrif y llyfr hwn, a gwella cryn dipyn arni. Yr un modd y mae diolch yn ddyledus i Mr. Idwal Lewis, B.A., o'r