Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llyfrgell Genedlaethol, am ei barodrwydd i gywiro'r proflenni. Dymunaf ddiolch hefyd i Mr. Prosser Rhys am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Teg yw cydnabod mai yn y Llyfrgell Genedlaethol y deuthum o hyd i'r hen gopïau o'r Faner a'r Geninen.

Peth priodol iawn, yn fy marn i, yw cychwyn cyfres lyfrau'r Clwb Cymraeg â gwaith Emrys ap Iwan, oblegid ef oedd un o arloeswyr mwyaf y deffroad cyfoes sy'n peri bod y Clwb hwn yn antur bosibl heddiw.

Y mae'r darn isod o'r Pamphlet des Pamphlets gan Paul-Louis Courier, a droswyd i'r Gymraeg gan Emrys, yn egluro beth oedd prif gymhelliad y ddau wrth ysgrifennu, ac yn haeddu ei gofio fel cyffes dau lenor mawr, gwrol, a di-dderbyn-wyneb: —

Lleferwch wrth ddynion am eu helyntion ac am helynt yr awr, a pheri clywed o bawb eich llais, os mynnwch ymenwogi. Gwnewch bamffledau fel Pascal, Franklin, Ciceron, Demosthen, fel yr Apostol Paul a Sant Basil; canys yn wir, anghofiais y ddau olaf, dynion mawr, y darfu i'w traethodynnau ddileu llawer o hen ofergoelion paganaidd, ac ail greu llawer cenedl. Y mae pamffledau eraill wedi newid gwedd byd. Heuasant ymhlith y Saeson egwyddorion goddefiad, y rhai a gludodd Penn i'r Amerig; ac y