Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bethau gwaeth o lawer na galw rheibiwr yn flaidd, a rhagrithiwr yn flaidd gwlanog. Nid wyf mwyach yn erfyn arnoch fy llywodraethu yn decach; ond yr wyf am ofyn ichwi eich llywodraethu eich hunan, a gadael i minnau fy llywodraethu fy hunan, fel y mynnwyf fy hun. Nid wyf mwyach am erfyn arnoch leihau'r rhent gorfawr sydd ar yr hen gors ddiffaeth a osodasoch im; oblegid nid wyf yn barnu ei bod yn iawn i mi dalu dim rhent i chwi am ddernyn o'm hen etifeddiaeth, gan mai myfi a'i piau i gyd oll. Nid wyf chwaith am erfyn arnoch leihau'r lliaws trethi eraill—gofyn am eu dileu yr wyf i; canys paham, yn enw cyfiawnder, y dylwn i fy ngwasgu fy hun, yn y radd leiaf, er mwyn porthi eich moethau a'ch mympwyon annuwiol chwi? Dyma fy arwyddeiriau i:—Let everyone mind his own business. Caffed pob dyn ei eiddo ei hun. Erin i Paddy, a Gwalia i Taffy."

MR. BULLY: Oh! 'eavens, what language! Sedition, sedition, unmitigable sedition! Treason, the most barefaced treason! Do I dream? or must it be a fact that this himpudent clod-'opper has dared to hinsult the first gentleman in the huniverse. The hidea! Dal ar hyn, Paddy; oni buasai ei bod yn well gennyf lywodraethu ar rywun nag ar neb, ac oni buasai fod arnaf dy eisiau i dalu trethi im, buaswn