Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dy gicio i fyd arall heb ddim chwaneg o siarad; buaswn, myn Jingo.

TAFFI (gan edrych yn gall): Atolwg, fy arglwydd, gorffwyswch tra ceryddwyf i ef. Er ei fod yn gefnder im, ac yn debyg im mewn llawer o bethau, eto, ni bu nemor o gydnabyddiaeth rhyngof ag ef er pan gyhoeddasoch ei fod yn greadur peryglus. Ni byddaf i yn rhyfygu barnu neb, na dim, drosof fy hun, ond byddaf yn aros yn amyneddus hyd oni wypwyf pa beth fydd eich barn ddi-feth a diduedd chwi. Y mae arnaf ddiolch mawr ich, f'arglwydd, am y wybodaeth gywir sydd gennyf am bobl a phethau. Cyn ich, yn rasol, fy rhyddhau oddi wrth fy etifeddiaeth, a'm gwneuthur yn un o'ch gweision, meddyliwn yn fy ngwiriondeb fy mod i, ar y cyfan, cystal â rhyw ddyn arall, a bod Paddy yn gystal dyn â chwithau. Ond fe'm hargyhoeddwyd gan eich honiadau dibetrus a di-baid mai chwychwi ydyw'r dyn gorau a mwyaf yn yr holl fyd. Ni byddaf byth yn blino ar ddweud wrth fy mhlant gymaint rhagorach ydych chwi na mi, a byddaf yn achub pob cyfleustra i dyngu mai myfi ydyw'r mwyaf loyal o'ch holl weision. (Wrth Paddy.) Gyda syndod a dig y'th glywais yn cablu urddas, ac yn diystyru llywodraeth. Gyda syndod, oherwydd beiddio ohonot amau awdurdod Mr. Bully i wneuthur â thi