Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ôl ei ewyllys ei hun; gyda dig, am dy fod wrth geisio bwrw ymaith yr iau yn taflu math o gondemniad arnaf i am ei dwyn yn dawel. Pa les it wingo yn erbyn yr anocheladwy? Cred ddarfod creu'r byd i wasanaethu Mr. Bully, a darfod creu Mr. Bully i lywodraethu'r byd. Tafl y syniad am ymlywodraeth i blith y pethau Utopaidd. Paham y chwenychi dy lywodraethu dy hunan, a'n meistr caredig yn dweud wrthyt yr ymgymer ef â'r drafferth i'th lywodraethu? Bydd foddlon; canys fy mhrofiad i ydyw hyn: bod gwasanaethu yn haws gwaith nag arglwyddiaethu. Peth arall, Paddy, nid wyt ti yn proffesu yr un grefydd, nac yn ufuddhau i'r un pab â Mr. Bully. Yr wyf fy hun yn barnu y dylai dyn gael rhyddid crefyddol—os bydd ei grefydd yn lled debyg i'r un a broffesaf i; ond yr wyf, er hynny, yn barnu na fyddai yn ddiogel gadael i Babydd fod yn feistr arno ei hun. Ac yr wyf yn sicr fod y farn hon yn uniawn; oblegid o enau Mr. Bully y cefais hi.

MR. BULLY: Da was, Taffi. Lleferaist fel y dylai gwas lefaru; ac er mai garw o beth ydyw ei bod yn rhaid i feistr ganmol ei was am wneud ei ddylet— swydd, eto, gan fy mod yn foneddwr par excellence, mi a ystyriaf rywbryd a ellir rhoddi rhywbeth it fel gwobr am dy ffyddlondeb; ond pa un bynnag a gaf egwyl i ystyried hynny ai peidio, parhâ di i ganu