Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byw fyddo Bully" yr un fath ag arfer. "Virtue is its own reward." Amdanat ti, Paddy, ni wn pa beth a wnaf â thi. Yr wyt yn anwareiddiadwy. Mi a'th driniais yn arw ac yn deg, ond aneffeithiol fu pob triniaeth. Mi a'th faeddais, ac a'th garcherais, ac a oddefais it hanner newynu; lleddais dy hoffaf feibion, a llathruddais dy ferched; ond nid ymostyngaist ddim. Yna, gan arfer mwynder, mi a ddanfonais geidwaid fy helwriaeth i'th droi'n Brotestant, ond ni fynnit; rhoddais hobaid o gloron it i'w plannu pan nad oedd gennyt arian i brynu rhai; rhoddais un o'm hen glosau it i guddio dy heglau; mi a'th ddysgais (ar dy draul dy hun yn wir) i regu yn yr iaith Bylaeg; ac a geisiais dy ddysgu i iawn seinio y llythyren R, ond nid oes gennyt ddiolch im am nebun o'r pethau hyn. Yr wyf yn coelio, bellach, na'th foddlonir byth, oddieithr cael ohonot yn ôl diriogaeth Erin; ond gwybydd na chei mohoni byth —na chei, cyn sicred â'm bod yn Gristion. Rhoes y Nefoedd di yn fy llaw, ac yr wyf yn penderfynu dal gafael ynot—ydwyf upon my honour. Yr oeddit yn sôn am dy hawliau etifeddol; ond oni wyddost fod gennyf i hawliau mwy cysegredig na'r rhai hynny, sef hawliau goresgyniad? Er gwaethaf dy anniolchgarwch a'th haerllugrwydd, yr wyf yn tystiolaethu yn awr eto, y filfed waith, fy mod yn ewyllysio