Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gennyt cyn hir gael cydymdrech â mi o blaid iawnder yn erbyn cryfder, buaswn yn poeri ar dy wyneb o wir ddirmyg. Ond annoeth fyddai im wneuthur â thi yn ôl dy haeddiant a minnau'n awyddus i'th gael yn gyfaill ac yn gydweithiwr. Pwy a ŵyr na chei di a'th deulu olau newydd, a blas newydd ar y llinellau hynny na faidd ond meibion gwŷr eu canu:—

Gwell ymladd hyd at waed na bod yn gaethion,
Gwell marw'n ddewr na byw'n wehilion."

BULLY: Beth! ai amcanu yr wyt i beri i'm gwesyn ffyddlon gan Taffi 'laru ar ei wasanaeth, a chydweiddi â thi am ymlywodraeth—y cynhyrfwr digywilydd?

PADDY: Ie, canys hunangar iawn fyddwn pe gwarafunwn i Taffi gael yr un iawnderau â minnau, gan ei fod yn yr un cyflwr.

BULLY: Ond y mae Taffi foddlon ar ei gyflwr.

PADDY: Ydyw, ysywaeth, a hynny am yr un rheswm yn union ag y mae gweision Belial yn foddlon ar eu cyflwr hwy. Ond yr wyf i'n dal nad oes gan ddyn ddim hawl i fod yn foddlon yng ngwasanaeth Mr. Belial, na Mr. Bully, 'chwaith.

BULLY: Ped adferid i chwi eich rhyddid a'ch tiriogaeth, nid oes un ohonoch a fedrai gadw ei dŷ, na thrin ei dir. Meistr gwael a wneir o was.

PADDY: Eich bai chwi ydyw ein bod yn weision.