Amdanaf i, nid wyf yn disgwyl, a minnau wedi bod cyhyd yn was, fedru gwneud trefn ar bethau mewn un dydd. Ond nid ydyw ddim i chwi pa un ai buan ai araf y dysg y gwas waith meistr. Hyn a wn y byddai'n well gan fy nheulu, o'r ddau, gael eu llywodraethu'n wael gennyf i na chael eu llywodraethu'n dda gan estron. Heblaw hynny, y mae'r gair ar led nad ydych yn llywodraethu'ch teulu'ch hun yn rhy dda, ond a ydyw hynny, debygwch chwi, yn rhoi hawl gyfreithlon i Mr. Russikoff i gymryd y llywodraeth oddi arnoch, yn unig am ei fod yn ddigon hunanol i dybied y medr lywodraethu'n well na chwi?
BULLY: Yn boeth y bo Mr. Russikoff! Y mae fy nyrnau yn ysu wrth glywed ei enw. Paham na buasai'r llwfryn yn derbyn fy her?
PADDY: Nid ydyw'r sylw yna'n ateb i'm gofyniad i.
BULLY: A wyddost ti beth, Paddy, y mae'n well gennyf di, er mai troednoeth wyt, na'r hen Russikoff yna. Mi rof it bâr o esgidiau, os medri ddychmygu rhyw gelwydd newydd amdano.
PADDY: Os ydyw'n dda gennych fi, cedwch eich esgidiau, a gadewch i mi fod yn feistr arnaf fy hun ac ar fy eiddo.