Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BULLY: Y mae gennyf ormod o gariad atat i'th ollwng yn rhydd, oes upon my honour.

PADDY: Gwarchod fi rhag y fath gariad. Rhy hunangar ydych, ac nid rhy ddyngar. Yr ydych yn proffesu bod yn garwr rhyddid, ond yn wirioneddol yr ydych y mwyaf gormesol o feibion dynion. Gwn ddarfod i chwi ryddhau rhai gweision oddi tan lywodraeth eu caethfeistri, ond y mae gennyf achos i feddwl wneuthur ohonoch hynny yn hytrach o genfigen at y meistri nag o gariad at y gweision. Yr ydych yn pleidio rhyddid ar bob ystâd oddieithr eich ystâd eich hun. Os bydd gwas rhyw feistr arall yn deisyfu bod yn ŵr rhydd, yr ydych yn galw ei ddeisyfiadau yn "ddyheadau naturiol a chyfiawn," ond gorflysiau ynfyd ac afiachus" y gelwch fy neisyfiadau i. Os cyfyd gwas gorthrymedig yn erbyn gorthrymwr pell, chwi a'i gelwch yn noble patriot, ond "bradwr atgas" y'm gelwir i am arfer hyd yn oed fy nhafod yn eich erbyn chwi. Os daw gwrthryfelwr o bell i'ch tiriogaeth, caiff ei noddi a'i foethi gennych; ond pa fodd, atolwg, y triniasoch fy meibion gwrthryfelgar i—Tone, Orr, Sheares, Russell, Fitzgerald, Emmet. O! Emmet, fy mab, fy mab! pa fodd y'th anghofiaf, Emmet? O'r holl feibion a fegais ac a gollais ni bu nebun mor gu gennyf â thydi. Ni bu erioed wrthryfelwr mwy