hefyd mor fawr oedd anfantais Beaconsfield, ac mor anwybodus yr ymddangosai yng Nghynhadledd Berlin oblegid na fedrai mo iaith gyffredin ei gyd— gynghorwyr. O! na buasai'r Ffrancwyr, yr Ellmyn, y Rwsiaid, a'r Tyrciaid, o'r un ysbryd â nyni'r Cymry. Pe baent felly, buasent oll yn unfryd yn troi i'w Saesneg o barch i'm Harglwydd Sais.
3.—Pa un ai mantais ai anfantais i ddynion fyddai bod heb iaith o gwbl?
Os dywedir mai mantais fyddai hynny, dangoser y medr dynion eisoes wneud y ddau beth pwysicaf, sef bwyta a chysgu, heb yr un iaith, ac y medrent garu ac ymbriodi, ac ymbaffio ac ymgymodi, a chladdu ei gilydd hefyd heb iaith, pe rhoddent eu bryd ar hynny. Profer y byddai mwy o naturioldeb ar eu hysgogiadau, a mwy o fynegiant ar eu gwep pe baent heb iaith; y ceid gwared llwyr o'r pregethau hirwyntog, yr areithiau llywyddol, y cylch—lythyrau, yr hysbysiadau, yr enllibiau, gweniaith, Warton, Bradlaugh, y Police News, a phob rhyw geriach, pe baem heb iaith. Ar air, ceid y fath ddistawrwydd ar wyneb y ddaear fel y byddai Thomas Carlyle farw o lawenydd.
4.—Pa un ai mantais ai anfantais i gerddorion ydyw bod mwy nag un dón ar yr un pennill?
Os barna'r cystadleuydd mai anfantais ydyw,