Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyged resymau i brofi mai tystiolaeth yr oesau ydyw na chanodd un cerddor ddwy dôn ar yr un pennill am dymor hir. Boddlona'r werin, o'r hyn lleiaf, ar un. Wrth ddysgu tôn newydd, anghofiant yr hen. Pe ceisient gadw'r ddwy, anghofient y ddwy; neu ynteu, cymysgent y ddwy ynghyd, a byddai hynny'n waeth fyth.

5.—Pa un ai mantais neu anfantais i'r Swliaid yw eu bod yn groenddu?

Os dywedir mai anfantais, profer na feiddiasai'r Saeson eu trin mor annynol pe buasent yn bobl wynion. Yn wyneb hyn, dangosed y cystadlydd mai dyletswydd resymol y Swliaid yw troi'n wynion cyn gynted ag y gallont. Profer ei bod yn haws iddynt newid eu lliw na newid eu hiaith am nad ydyw eu lliw yn cyrraedd yn is na'r croen, ond bod iaith eu tadau wedi paratoi lle yn eu henaid, ac wedi gosod ei nod ar eu peiriannau tufewnol; ie, cyn medru ohonynt siarad gair ohoni.

Dyna bynciau'r gystadleuaeth; dyma'r rheolau eto:—

1. Ni chaniateir i neb a welodd lawer o'r byd, ac a ŵyr amryw ieithoedd gystadlu ar y pwnc blaenaf am fod perygl iddo fod yn fwy "clannish" a "rhagfarnllyd' na'r Cymry rhyddfrydig hynny a arhosodd ar hyd eu hoes tan ddylanwad y Saeson.