Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III

PAHAM Y GORFU'R UNDEBWYR

A llygaid Cymro Cymreig yr wyf i yn dewis edrych ar y cwestiwn y gofynnwyd imi ei ateb yn Y Geninen; a chan fod y cyfryw Gymro yn perthyn yn hytrach i ysgol nag i blaid y mae'n debygol na ŵyr y darllenydd gymaint amdano ag a ŵyr o am y Cymro Fydd. Boed hysbys ynteu mai Cymro Cymreig yw pob Cymro sy'n credu ac yn cyffesu mai cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd yw'r pwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol. Yn ei olwg ef, cadw'r Gymraeg yn fyw ac yn iach yw'r unig Geidwadaeth y mae'n weddus i'r Cymry ymegnio i'w hamddiffyn, a rhyddhau'r Dywysogaeth oddi wrth yr ormes Seisnig sy'n ei gwneud hi'n gadlas chwarae ac yn grochan golchi i bobl anghyfiaith ac anghyweithas ydyw'r unig Ryddfrydiaeth y mae'n wiw i'r Cymry ymladd drosti; canys y mae a wnelo'r Geidwadaeth a'r Rhyddfrydiaeth yma, nid yn unig â llwyddiant, ond hefyd â bywyd y genedl yr ydym yn perthyn iddi. Gan mai pobl anaml ydym, yn preswylio parth bychan o Ynys Brydain, ni allwn argyhoeddi estroniaid ein bod yn