Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim amgen na Saeson heb eu llwyr wareiddio os na bydd gennym iaith wahanol. I ni, y Gymraeg yw'r unig wrthglawdd rhyngom a diddymdra, ac y mae'r sawl a dorro'r gwrthglawdd hwnnw, trwy barablu iaith ein gorchfygwyr heb raid nac achos yn euog o ddibrisdod sy'n dangos eu bod wedi colli pob parch iddynt eu hunain; a phan beidio dyn â pharchu ei hun y mae hwnnw i bob perwyl wedi peidio â bod. [1]

Er bod y Cymro Cymreig yn rhy falch i'w ddiddymu ei hun, nid yw o'n gulfarn o gwbl, fel y tybia rhai. Y mae o'n ewyllysio i'w gydwladwyr nid yn unig ddysgu Saesneg a darllen llenoriaeth Saesneg, ond hefyd ddysgu pedair prifiaith y Cyfandir, er mwyn ymgydnabod â phobl a llenoriaeth sy'n llai ynysaidd na rhai Prydain. Trwy dreulio tair neu bedair blynedd ar y Cyfandir, gwelent nad yw'r Saeson ddim mor fawr o lawer yng ngolwg cenhedloedd eraill ag ydynt yn eu golwg eu hunain, ac yng ngolwg y Cymry plentynnaidd sy'n credu bod "I say" yn Saesneg yr un peth â "Fel hyn y dywed yr Arglwydd " yn y Gymraeg. Gwelent ei bod yn rhaid i estron o Sais dalu mwy deirgwaith am ei fwyd a'i lety na rhyw estron arall, nid yn unig am ei fod yn

  1. "Yn Ffrainc mi a fedraf Ffrangeg; ond paham y dylwn siarad estroniaith yn fy ngwlad fy hun?"—Lessing yn Minna von Barnhelm.