Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwialenodio, ie, yn ffonodio eu disgyblion am siarad Saesneg yn yr ysgol, ac yn eu rhybuddio na siaradont "that vulgar English" y tu allan i'r ysgol chwaith. Dychmyger bod miloedd o goegynnod a choegennod ar hyd a lled Lloegr yn clebran Cymraeg yn y siopau, yn y trenau, a hyd yn oed mewn dosbarth yn yr ysgolion Sul, a hynny am eu bod yn synio bod siarad hen iaith go bur fel y Gymraeg yn beth mwy gweddus na siarad rhyw glytwaith diweddar fel Saesneg. Dychmygwn fod ar agos bob siopwr yn Lloegr gywilydd ei alw ei hun yn butcher, yn clothier, neu yn shoemaker, a bod Richard Cockburn, Cigydd; John Coldbottom, Dilledydd; ac Alfred Rawbottom, Crydd, yn serennu uwch ben y siopau. Dychmygwn fod Cwmni'r L. & N. W. R. yn dileu'r enw Runcorn Station, ac yn peri paentio ar yr ystyllen: Gorsaf yr Un-Corn; fod gweision Gorsaf Oxford yn gweiddi "Rhydychen" er mwyn boddio'r astudwyr Cymreig, a bod gweision gorsaf Caer er mwyn peri cyfleustra i farchnadwyr ffwdanllyd Cymru yn dywedyd wrthynt yn fwyn: "This way, gentlemen, to the Nerpwl train." Dychmyger (os gellir dychmygu peth mor anghredadwy) fod gweithwyr o Saeson ar rai o ffyrdd haearn Lloegr yn goddef i ddeuddyn uniaith â'u henw Huws a Dafis eu trin mor drahaus ag y mae gweith-