Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr o Gymry ar rai o ffyrdd haearn Cymru yn goddef i rai Saeson uniaith eu trin hwy. [1] Yn sicr, ni byddai'n fwy anweddus i'r genedl ieuengaf ddynwared y genedl hynaf nag ydyw i'r genedl a orchfygwyd ei hamharchu ei hun er mwyn dangos parch i'r genedl a'i gorchfygodd. Os dywed rhywun mai cenedl gydraddol ydym â'r Saeson ac nid un ddarostyngedig iddynt, yna paham na bai gennym senedd Gymreig? Neu, yn niffyg senedd Dywysogaethol, paham na bai nifer ein cynrychiolwyr yn y Senedd Ymerodrol yn gyfartal â nifer cynrychiolwyr y Saeson? Lle bynnag y bo "predominant partner," nid oes yno gydraddoldeb. Nid yw "predominant partner" yn ddim amgen nag enw mwyn ar orthrechwr—tyrant.

"Yr hynaf a wasanaetha'r ieuengaf." Dyna'r ffaith ar hyn o bryd, ond y mae'r Cymro Cymreig yn gobeithio na bydd hynny ddim yn ffaith byth; nid am ei fod yn ddigon plentynnaidd i roi coel ar broffwydoliaethau Myrddin a Thaliesin, eithr am fod ganddo gred yn Rhagluniaeth a chyfiawnder Duw. Fe demtid dyn i gredu nad oes Creawdwr a

  1. Y mae'n ymddangos fod gan y Saeson anhawddgar hyn ffordd newydd i gael gwared o'r gweithwyr Cymreig, sef eu gyrru i weithio ymhell oddi cartref, a thrwy hynny beri iddynt deimlo bod eu cyflog yn rhy fach i'w cynnal hwy mewn llety.