Llywodraethwr yn bod pe gorfyddai iddo gredu y goddefir i genedl mor waedlyd ac ysbeilgar â'r Saeson flino a llygru'r byd yn llawer hwy. Yn fuan neu yn hwyr, y mae traha cenedl yn dychwelyd ar ei phen ei hun, a pha genedl erioed a fu mor drahaus â'r Saeson? Y mae llawer cenedl o dan ei phawen er ys ugeiniau a channoedd o flynyddoedd; er hynny, nid oes odid un ohonynt wedi dygymod â'i chyflwr. Y mae miloedd ar filoedd o Gymry heddiw mor ffiaidd ganddynt fod yn ddarostyngedig iddi a phe buasent yn byw drannoeth ar ôl cwymp Llywelyn; ac fe godai Iwerddon, a'r Aifft, a'r India, mewn gwrthryfel yn ei herbyn yr wythnos nesaf, pe rhyngai bodd i Ffrainc neu Rwsia dorri asgwrn ei chefn. Os o'r braidd y mae hi'n gallu gorfod ar fân genhedloedd anarfog a hanner noethion, pa le yr ymddengys hi pan ddelo chwant arni i brofi ei gynnau newyddion mewn rhyfel yn erbyn cenedl gref? Gymry, nid yw ddoeth i chwi frysio i ymgolli ynghanol y Saeson—ni wyddoch beth a ddigwydd mewn deng mlynedd.
Ysywaeth, nid yw'r Cymry Cymreig eto wedi ymgyfuno'n blaid wleidyddol; ar wasgar y maent ar hyn o bryd ymhlith y pleidiau eraill. Y mae llawer ohonynt wedi ymuno â'r Cymry Fydd, o achos eu bod yn tybied bod y blaid honno ychydig