neu drwy arian yn cefnogi'r fath glybiau anghymreig. Yn boeth y bo'r Eglwyswyr a'r Ymneilltuwyr: rhyngddynt a'i gilydd hwy a ddinistriant Gymru ost cânt eu ffordd. Nid yw'r helynt sydd rhyngddynt ond ymgecraeth rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr. Cenfigen sectol sydd wrth wraidd eu holl regfeydd. Awn i'n pebyll a gadawn iddynt, hyd oni chodo rhywun yng Nghymru a garo'i genedl yn fwy nag Eglwys Loegr ac achos' Saesneg."
Fel hyn y mae llawer o Ymneilltuwyr Cymroaidd yn siarad; am hynny, braidd y gellir disgwyl iddynt ymladd yn egnïol dros yr ymgeiswyr a fydd yn gofyn am eu cefnogaeth. Y mae rhai o'r ymgeiswyr Chwigaidd yn dangos llai o gallineb, os nad llai o wladgarwch hefyd, hyd yn oed na'r ymgeiswyr Torïaidd. Cymerer yr ymgeiswyr dros fwrdeisdrefi Dinbych yn enghraifft. Gan fod gennyf hawl i bleidebu yn Rhuthyn, fe ddanfonwyd i mi fwrnel o bapurau argraffedig a sgrifenedig oddi wrth y ddau ymgeisydd, Gwallter Morgan a Thudur Hywel. Yr oedd holl bapurau'r ymgeisydd Torïaidd mewn Cymraeg pur dda, a holl bapurau'r ymgeisydd Chwigaidd mewn Saesneg gweddol. Yr oedd y Tori yn dweud "y dylid cefnogi iaith, llenoriaeth ac arferion y Cymry," a'r Chwigiad yn dweud yr ymroddai fo i ofalu am "the affairs of this great