nation." Fe'm llanwyd â digofaint a chywilydd wrth ddarllen cylch—lythyr mor ynfyd ac mor sarhaus, a phenderfynais ar y pryd na rown byth bleideb i ymgeisydd oedd yn caru'r "great nation" yn fwy na'i genedl fach ei hun: ond rhag ofn nad oedd o'n medru sgrifennu Saesneg yn ddealladwy, mi a euthum i Ruthyn er mwyn cael eglurhad ganddo yn Gymraeg ar ei ymadrodd rhyfedd. Ysywaeth, nid oedd o yno, ond fe ddywedodd rhai o'i gyfeillion (y nefoedd a faddeuo iddynt os dywedasant gelwydd politicaidd wrthyf) mai'r ysgrifennydd a oedd yn gweithredu dros yr ymgeisydd a wnaeth y llythyr anffodus oedd yn fy mlino, ac na wyddai'r ymgeisydd ei hun ddim amdano, er bod ei enw wrtho; a chan fod yr ysgrifennydd hwnnw'n fwy o Sais nag o Gymro, ac yn byw y tu hwnt i Glawdd Offa, nad oedd yn hawdd iddo gofio bod y fath genedl â'r Cymry yn bod, ac am hynny y byddai'n resyn imi gosbi'r ymgeisydd o achos anwybodaeth ei ysgrifennydd. Er bod hyn yn eglurhad aneglur iawn, ei dderbyn a wneuthum am ei werth, a rhoi fy llais— nid o blaid y Great Nationist, eithr yn erbyn yr Unionist, a phan glywais beth oedd diwedd y chwarae, yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli, ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.
Nid oes gofod i sôn am Mr. Herbert Roberts, yr