Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn sydd, fel Martha, yn ofalus ynghylch llawer o bethau, a heb fod yn ddiofal am ddim oddieithr yr un peth angenrheidiol; nac am yr estron diddrwg sydd yn cynrychioli capelau dyledog Sir Fflint, yr hwn sydd, fel Mair a Phersis, yn cymryd llawer o boen yn yr Arglwydd i ddeall beth a fynn ei etholwyr anghyfiaith iddo ei wneud erddynt. Y mae'n ddigon i mi ddweud fod y rhai hyn, ac amryw o ymgeiswyr pellach, wedi aflwyddo mewn rhan neu yn gwbl, am nad oedd yn eu hanerchiadau ddim i gyffroi'r galon Gymreig. Os oedd ymgeiswyr Torïaidd yn gallu tanio Saeson a Chymry Seisnigedig trwy frygawthan am Undod yr Ymerodraeth, fe allasai'r ymgeiswyr Chwigaidd yr un funud danio'r Cymry trwy sôn am hawlio priod y Dywysogaeth. Os mynn ymgeiswyr mewn etholiad sôn am bob rhyw beth oddieithr y peth mwyaf, gan osod hawddfyd person a dosbarth yn uwch na rhyddid cenhedlig, pa fodd y gellir beio ar rai o'r etholwyr am gyfrif y Chwigiaid a'r Torïaid yn ddau dŷ masnachol, ac am eu bod yn cymryd eu cennad i fyned i'r siop lle y cynigir iddynt y fargen orau?

Erbyn hyn y mae'r Blaid Chwigaidd yn Lloegr agos wedi diflannu, a hyd yn oed ped ymddangosai hi eilwaith yn ei nerth ymhen chwech neu ddeu- ddeng mlynedd, hi a fydd yn rhy ofnus i ail gynnig