i'r Cymry a'r Gwyddelod y pethau y gorchfygwyd hi o'u plegyd. Am hynny, nid trwy ennill ei ffafr hi, eithr trwy flino'r Blaid Dorïaidd, sef yw hynny, trwy flino corff y genedl Seisnig y gall y cenhedloedd darostyngedig godi eu pennau. Y mae Rhyddfrydiaeth bellach yr un peth â rhoddi rhyddid i'r cenhedloedd Celtaidd, ac y mae Torïaeth yr un peth â'u rhwymo â chadwynau pres yn lle â chadwynau haearn. "Y Teutoniaid yn erbyn y Celtiaid" fydd gwaedd y Torïaid, a'r "Celtiaid yn erbyn y Teutoniaid" fydd gwaedd y Rhyddfrydwyr: ac yn wir, meddaf i chwi, ni cheir byth lawer o'r cyfryw Ryddfrydwyr yn Lloegr. Rhaid i'r Cymry, mewn undeb â'r Celtiaid eraill, ymddarparu i ymladd yn erbyn cenedl gyfan, ac nid mwyach yn erbyn plaid; canys y mae'r etholiad diwethaf wedi dangos yn amlwg fod y Saeson bron i gyd yn unfarn yn erbyn cydnabod y Cymry a'r Gwyddelod yn genhedloedd priodol. Y mae'r gŵr bonheddig o Loegr yn addef bod y fath greaduriaid â lleidr Cymreig a llofrudd Gwyddelig, ond y mae o'n gwadu bod y fath bobloedd â chenedl Gymreig a chenedl Wyddelig. Un genedl sydd, os gwelwch yn dda, sef "y genedl fawr hon," chwedl Gwallter Morgan; ac aelodau annheilwng yw pawb o'r Cymry a'r Gwyddelod (oddieithr y drwgweithredwyr) ohoni hi. Sais
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/72
Gwedd