IV
WELE DY DDUWIAU, O WALIA!
Cyfod dy galon a'th ael, ddarllenydd: nid ydyw dy wlad cyn waethed ag y dywedir ei bod. Y mae'n myned yn llai eilunaddolgar bob oes. Yn y dyddiau gynt, yr oedd rhifedi ei duwiau hi yn ôl ei dinasoedd; ond ni cheir ynddi bellach ond pump neu chwech, o'r mwyaf. Bu llawer ohonynt farw o wendid a hendid. Eraill, o eisiau amgenach croeso, a giliasant i wledydd dieithr, a'r lleill a alltudiwyd o achos y niwed a barent i'r wladwriaeth.
Gwelwyd bod Adramelech yn rhy hoff o gig plant—am hynny rhoddwyd ef i genedl fwy epilgar. Ni allai Rimmon a Baalpeor gydweithio; am hynny gorchmynnwyd i Rimmon, druan, fyned i chwilio am genedl nad ofnai olau dydd. Gwrthryfelodd y Cymry'n fore yn erbyn Baalzebub, duw'r gwybed; a'u dadl oedd hyn—dywedent nad teg oedd eu gorfodi i gynnal brenin rhwysgfawr dros flynydd— oedd crynion tra nad oedd raid wrtho ond am fisoedd yr haf; a haerent fod ganddynt ddigon o allu moesol a naturiol i ladd pob rhyw bryf a'u cosai hwynt yn ystod y misoedd oerion heb gymorth un