duw. Yntau, gan ryfeddu'n aruthr wrth hanghrediniaeth, a gyflogodd i fyned i'r Eidal lle y mae'n cael ei wala o waith trwy gydol y flwyddyn. Cafwyd nad oedd y duwiesau Melpomene ac Urania yn gweddu yma, gan fod y naill yn ymdrin â phethau rhy uchel, a'r llall â phethau rhy ddyfnion; am hynny, gyrrwyd hwy'n anrheg i'r Germaniaid. Bellach, y mae'r rhan fwyaf o eilunaddoliaeth y genedl yn rhedeg mewn dwy sianel—Ariangarwch a Saisaddoliaeth! Yn lle rhannu eu calon fel cynt rhwng duwiau lawer, y mae'r Cymry yn awr wedi crynhoi eu holl serch ar ddau lo—y llo aur a'r llo Seisnig. Rhaid addef na ddangosant fawr o ragfarn yn eu heilunaddoliaeth, canys y maent yn parchu'r hen a'r diweddar. Y mae'r llo aur wedi bod yn dduw llawer oes a llawer gwlad. Gwnaethpwyd ef ond odid yng ngefail Tubal Cain, ond, ac addef y gwir, corrach o dduw go ddiweddar ydyw'r llo Seisnig. Ni all hawlio dim parch ar gyfrif ei oedran.
Un ydyw na wybu Israel ddim amdano. Ni chafodd erioed yr anrhydedd o eistedd yn ystafell y duwiau yn Rhufain. Erioed ni chodwyd allor iddo yn Athen. Ond os nad ydyw ei ddyddiau'n ymestyn i'r cynfyd, os nad aeth y sôn amdano hyd eithafoedd daear, y mae er hynny yn dduw gwir genedlaethol. Y Cymro a'i dyfeisiodd, y Cymro a'i toddodd, y