Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymro a'i lluniodd, a'r Cymry yw'r unig genedl ar y ddaear sydd yn ei theimlo'n fraint i gael ei addoli. Ond gadewch i ni aros y tro hwn gyda'r un aur. Duw yw hwn na ddiystyrir mono gan un genedl ar y ddaear, ond nid oes ond Cymry, y Saeson a'r Americaniaid yn ei garu ef â'u holl nerth ac â'u holl feddwl. Y dyn ariannog ydyw'r homme comme il faut ym Mhrydain. Nid yw felly mewn gwledydd mwy gwâr. Ped ymholai'r Swediad ynghylch rhywun, gofynnai "Pa fodd y mae'n ymddwyn? Gofynnai'r Helvetiad, y Germaniad a'r Isdiriad, "Pa faint o wybodaeth sydd ganddo?" Gofynnai'r Ffrancwr, "Pa faint o ddawn—o esprit, sydd ganddo? Ond y Sais a ofynnai, "Pa faint o arian sydd ganddo?" Yn fyr, Sut droed sydd ganddo, medd y Swediad. Sut dafod sydd ganddo, medd y Ffrancwr. Sut ben sydd ganddo, ebe'r lleill; ond sut logell sydd ganddo, medd y Sais!

Achwynir yn fynych ddarfod i gyndadau ein cyfoethogion etifeddol gael eu tir a'u golud trwy drais. Addefaf hynny, ond eto y mae'n well gennyf i'r cyfoethogion boneddol hyn na'r cyfoethogion difonedd; y maent yn fwy hynaws, yn fwy difalch ac yn fwy diddichell. Yn wir, caech eu bod yn fwy o ddynion na hwy ymhob modd, pe peidiech ag edrych arnynt trwy offeiriaid. Geilw rhai'r dyn a