Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bentyrrodd olud mewn byr amser yn self-made-man. Self-unmade-man y galwaf i bob corrach. A welsoch chwi ddyn a roes ei fryd ar ennill cyfoeth yn ymboeni i ddatblygu ei ddynoliaeth ryw dro? Beth, atolwg, yw'ch syniad chwi am ddyn? Os mynnwch eich annynoli'ch hun, penderfynwch fyned yn gyfoethog. Dyma'r ffordd frenhinol i grebachu'r enaid. Ond tebygaf eich clywed yn dadlau y gall dyn fyned yn ariannog heb fod yn ariangar. Addefaf y gall, trwy ddirfawr ffawd, ond dal yr wyf fod yr amserau hyn y fath fel na all dyn, fel rheol, bentyrru arian yn gyflym heb garu arian, heb hefyd esgeuluso'i ddyletswyddau tuag ato'i hun, at ei gymydog, ac at ei Dduw. Nid wyf yn tybied bod y grediniaeth hon mor ddieithr i chwi, fel y bo'n rhaid colli amser i ddangos y rhesymau y mae'n gorffwys arnynt. Ofnaf mai ychydig sydd yn rhedeg yn chwyrn i El Dorado—i wlad yr aur—heb wneud yr hyn sydd yn annheilwng o Gristion, os nad o ddyn. Gynifer sy'n dyfod i olud trwy fath o hapchwarae. Y naill o wir ddamwain a lwydda yn ei anturiaeth, ac a ddaw felly i anrhydedd, a'r llall, druan, a fetha, ac yna a fwrir allan o'r synagog—a hynny, cofier, nid o achos ei gamwedd, ond o achos ei anffawd. Yng ngolwg rhai dynion, y mae llwyddiant yn gosod sêl o gyfreithlondeb ar bob camwri. Gwir yw'r gair