Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V

Y LLO ARALL

FONEDDIGION,

Yn fy llythyr o'r blaen, bwrw gwawd yr oeddwn ar y llo aur: fy ngorchwyl y tro hwn yw gwaradwyddo'r llo Seisnig, gan ei wneuthur ef yn ffiaidd yng ngolwg ei addolwyr. Yr wyf eisoes wedi dweud na ellir parchu mo'r llo Seisnig ar gyfrif ei enw na'i oed. Ond er mai'r hen a berchir, eto yr ieuanc a gerir. Buasai ei ieuenctid yn ei wneud yn anghymeradwy gan genhedloedd eraill, ond hyn yn anad dim sy'n peri i'r Cymry wirioni arno! Er mai llo Seisnig y gelwir ef, eto, mewn ystyr arall, nid oes yr un llo mwy Cymreig nag ef—ffrwyth cariad y Cymry ydyw. O dan bren deiliog yng Nghymru yr ymddygwyd arno; y Cymry a roes iddo sugn; ar borfa Cymru yr aeth yn fras. Cydnabyddaf fod gan y Cymry lawer i'w ddywedyd drostynt eu hunain, ac er mwyn hepgor trafferth iddynt hwy, byddaf mor garedig â nodi dau neu dri o bethau sy'n glod iddynt. Tra bo ambell genedl yn addoli'r pell—yr haul, er enghraifft—y mae'r Cymry'n addoli'r agos. Y genedl agosaf atom yw eu duw hwy. Tra bo