ambell genedl yn addoli abstract idea, y mae'r Cymry yn addoli personau: nid amgen na'r Liverpool roughs, a physgod-wragedd Billingsgate. Hyn yna o ganmoliaeth i chwi wrth fynd heibio.
Ni raid dweud wrth y rhai craffaf ohonoch nad wyf i ddim yn erbyn i chwi barchu pob Sais sydd yn haeddu parch. Dywedodd un Sais mai'r Saeson gorau yw'r bobl orau ar y ddaear, ac mai gwerin y Saeson yw'r creaduriaid dylaf a dyhiraf. Yr wyf yn credu ei dystiolaeth. Y trueni yw bod y Saeson gorau gymaint llai eu nifer na'r rhai gwaethaf. Cydnabyddaf fod miloedd o Saeson yn bobl y gellir eu parchu. Dadlau yr wyf nad yw corff y genedl Seisnig ddim yn gyfryw bobl y dylem ni'r Cymry eu haddoli a'u dynwared.
Os gellwch, ac os mynnwch, anrhydeddwch bob Sais, ond gwnewch hynny heb aberthu'ch anrhydedd eich hunain. Dangoswch iddo annibyniaeth eich ysbryd, nid trwy ei boeni â dwrn a thafod, ond trwy beidio ag ymostwng i'w efelychu yn ei feiau cenhedlol, megis ei falchder, ei daeogrwydd, ei draheusder, a'i anwybodaeth. Yn y Sais, nid yw'r pethau hyn ond amlygiadau o'i ysbryd. Ynoch chwi y maent yn amlygiadau o wasaidd-dra. Yr ydych yn ceisio gweithio eich hunain i'r un ysbryd ag ef, trwy ddwyn yr un nodau ag ef.