Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymraeg, y mae arnaf ofn mai marw a wna; ond os bydd i chwi am unwaith gymryd plaid y bobl wybodus ac annibynnol, a phenderfynu y caiff y Gymraeg fyw, byw a fydd. Y mae tynged yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar ewyllys y Cymry eu hunain. Ni ddywedaf y byddai marw crefydd Cymru ym marwolaeth y Gymraeg, er y credaf y derbyniai ergyd arw. Ond credaf yn sicr y derfydd am Fethodistiaeth o Gymru pan ddarfyddo am y Gymraeg. Er gwaethaf rhai eithriadau, y mae digon o ffeithiau i brofi bod hoedl y ffurf hon ar grefydd ynglŷn wrth hoedl y Gymraeg. Y mae Methodistiaeth yn llys— ieuyn mor genedlaethol fel na all dyfu ond ar bwys iaith genedlaethol. Nid yw rhai o'n harweinwyr heb wybod hyn. Gelyniaeth at Fethodistiaeth ddiledryw sy'n peri i lawer o Fethodistiaid hanner gwaed fod mor awyddus i sefydlu English Presbyterian Churches mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau. Wedi y galluoger hwynt i godi nifer lled dda o'r achosion Seisnig hyn, gwnânt bont ohonynt i fynd trosodd i dir Presbyteriaeth. Gwisgant yr enw Presbyteriaid yn awr; yng nghwt yr enw daw'r trefniant.

Fethodistiaid, arferwch eich barn; na chymerwch eich hudo gan genhadon cyflogedig i roddi'ch arian at sefydlu achosion sy'n tueddu i niweidio crefydd, i ddinistrio'ch enwad, eich iaith, eich annibyniaeth,