a'ch holl neilltuolion crefyddol a chenedlaethol. "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd." A yw'r gair hefyd yn eich Beibl chwi? Os felly, mynnwch wybod ei rym
a'i ystyr. Fel personau neilltuol yr ydych yn hunangar iawn, ond fel cenedl yr ydych y rhai mwyaf anhunangar ar y ddaear. Ni fynnwn ar un cyfrif i chwi fod mor hunangar â chenedl y wlad honno where charity begins at home and ends at home. Ond am eich cariad chwi y Cymry, oddi cartref y mae'n dechrau, ac oddi cartref y mae'n terfynu. Os na adewch i hunangariad drigo o'ch mewn, bydded ynoch dipyn o hunan-barch ynteu. Dangoswch nad gwneud nyth i'r gog Seisnig yw unig amcan eich creadigaeth. Cofiwch mai eich sarhau eich hunain yr ydych, a sarhau'r Saeson hefyd, wrth aberthu'ch ceiniogau cochion i gynorthwyo pobl sy'n ymgreinio mewn aur a gemau. Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw. Gadewch i'r Saeson ddarbod dros y Saeson—Saeson Lloegr dros Saeson Cymru, oni allant ddarbod drostynt eu hunain.
Ond os cudd eu mamau eu bronau rhagddynt, paham y mae'n rhaid i ni fyned yn famaethod iddynt? Os ydynt yn dyfod atom i fyw, boed iddynt eu cyfaddasu eu hunain atom. Onid ydym wrth eu bodd hwy, boed iddynt ddychwelyd i'w gwlad eu