Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI

PAUL MEWN DILLAD NEWYDD;

NEU O.C. 66 VERSUS O.C. 1877

Y mae'n debyg bod dyfodiad yr Apostol Paul i Lerpwl echdoe yn beth hysbys erbyn hyn i bawb sy'n arfer darllen y papurau beunyddiol. Yn wir, nid hawdd meddwl bod ffaith mor hynod â hon heb gyrraedd clustiau pawb eraill hefyd. Ofer gan hynny, fyddai i mi bellach ymdroi i fynegi o ba le, ac ymha long y daeth Paul yma, pwy a'i derbyniodd ef ar y man glanio, pa sawl rhoch magnel a ddychrynodd wylanod, sawl awyren a gystadlodd â'r ehedydd, sawl amserell aur a newidiodd feddiannydd, sawl seindorf a ganai "See the conquering hero comes," sawl ymladdfa a fu rhwng y gwahanol enwadau crefyddol amdano, beth oedd barn y benywod am ei berson, pa heolydd yr arweiniwyd ef ar hyddynt, ymha le a chyda pwy y ciniawodd, beth a ddywedodd yn ateb i'r toast "To the clergy," a chant o bethau eraill. Ymfoddlonaf yn unig ar roddi adroddiad o'r hyn a gymerodd le yn St. George's Hall drannoeth. Yno derbyniodd Paul GENHADAU (deputations): —