1. Oddi Wrth y Gwragedd.—Dyfod ato i ymofyn a wnaethant hwy pa fodd y bu i ddiwinydd o'i fath ef gael ei demtio i wneud sylwadau beirniadol ar wragedd chwedleugar, ac ar eu gemau, a'u gwallt, a'u gwisgoedd. Dywedent wrtho nad oes yn awr odid eneth ddengmlwydd oed ar nas gŵyr fod ei ateb i'r gofyniad mawr "Beth a wisgwn" yn gwbl gyfeiliornus y mae nid yn unig yn anghyson â deddfau chwaeth y merched eu hunain, ond hefyd, yn wrthwyneb hollol i ddeddfau misol golygydd anfarwol y Follet. Credent na allai byth broselytio holl wragedd Ewrop oni roddai iddynt berffaith ryddid i siarad ac i ymwisgo fel y mynnent." Atebodd Paul, "Angelesau diedyn, y mae'n ddrwg iawn gennyf ddarfod i mi erioed eich brifo; ond goddefwch i mi awgrymu'n fwynaidd nad teg iawn yw eich gwaith yn bwrw i'm dannedd ymadroddion a ysgrifennais mewn llythyrau cyfrinachol at Timotheus ac eraill. Ni ellwch chwi eich hunain lai nag addef y byddwch yn ysgrifennu llawer llythyr at eich cyfeillion na fynnech er dim iddynt gael eu cyhoeddi; ond felly ysywaeth y digwyddodd gyda'm llythyrau i. Byddai'n haws i chwi faddau i mi pe cofiech hefyd fy mod y pryd hwnnw yn hen lanc croendew, a gwyddoch o'r gorau fod pob hen lanc yn barotach i ddodi iau ar war merch nag i ddodi modrwy am ei
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/95
Gwedd