Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bys. Ond wedi gweled ohonof ferched glân y Gorllewin, meddiannwyd fi gan deimlad mwy tyner. Teflwch oddi wrthych gan hynny bob rhwymau a osodais arnoch yn amseroedd yr anwybodaeth. Pe buasai merched y Dwyrain cyn laned ag ydych chwi, odid na phriodaswn un ohonynt. Beth bynnag am hynny, y mae'n sicr y buasai eu prydferthwch wedi fy atal rhag ymyrryd dim â'u ffasiynau. Cyn eich gollwng ymaith, dymunaf roi ar ddeall i chwi mai cymeradwy iawn gennyf i yw'r dull Jesebelaidd sydd ar eich cyrff a'ch gwisgoedd. Onid ymddangoswch yn y dull hwn mewn dawnsfeydd a chyngherddau, byddwch yn euog o guddio'ch gogoniant dan lestr." Ar ôl diolch iddo, aeth y merched ymaith yn llawen.

2. Oddi Wrth Brif Deilwriaid Rhydychen.— Gofyn i Paul a fyddai mor fwyn â dweud wrthynt beth oedd lliw a llun y cochl a adawodd Nhroas.

3. Oddi Wrth yr Eglwys Lydan:—Gofynnodd y cenhadau iddo a oedd yn parhau i goleddu syniadau mor gul am Iddewiaeth a chrefyddau eraill, ac a oedd yn barod i alw yn ôl y geiriau geirwon a lefarodd am Baganiaid moesol a dysgedig. Cyn myned allan, parasant iddo ddarllen Nathan der Weise, o waith Lessing, er mwyn ehangu ei gydymdeimlad.

4. Oddi Wrth y Bedyddwyr.—Gofyn iddo a