Yn hyn, fel ym mhopeth arall, ymbaratowch yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sy'n dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sy'n myned ymaith; ac os mynnwch fod yn bregethwyr poblogaidd, boed yn well gennych fod yn boblogaidd yn ddeg a thrigain oed nag yn bum mlwydd ar hugain; canys nid oes dim i'w ofni'n fwy na bod yn fach yn hen ar ôl bod yn fawr yn ieuanc. Wrth ymgoethi ar gyfer dosbarth coethaf, mewn oes a ddichon fod yn goethach na'r oes hon, nid wyf yn credu y'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr mwy anghymeradwy gan y dosbarth cyffredin. Os nad yw gwrandawyr cyffredin yn gallu prisio iaith helaeth (copious), y maent hwythau yr un ffunud â'r rhai dysgedig yn prisio iaith olau ac ystwyth. Hyd yn oed yng Nghymru, y pregethwyr a chwiliodd am eiriau cymeradwy fu meistriaid y gynulleidfa; o leiaf, hwynt-hwy a barhaodd i fod yn feistriaid y gynulleidfa dros hir amser. Y mae hyn yn fwy gwir fyth am bregethwyr gwledydd eraill. Yr oedd Bourdaloue, Massillon, a Bossuet, yn bregethwyr mwy cymeradwy na phregethwyr eraill am eu bod yn fwy o lenorion na hwynt; ac am eu bod yn llenorion, y maent, er wedi marw, yn llefaru eto trwy eu pregethau argraffedig.
Y mae'n debygol mai yn Gymraeg y mae ac y