iadau gorau yn eich iaith eich hun ac yn yr iaith Saesneg; ac os medrwch ddysgu'r Ffrangeg mor rhwydd ag y medr ambell goegyn o Gymro anghofio'i Gymraeg, yna cymdeithaswch â Pascal a Paul-Louis Courier; canys hwynt—hwy, ym marn gwŷr cyfarwydd, ydyw'r arddullwyr gorau o bawb yn yr oesoedd diwethaf. Dylwn eich rhybuddio y byddwch yn fwy anfoddog nag erioed ar ôl gwneud fy nghyngor; canys bydd yn flin gennych ddarllen a gwrando llawer o bethau yr ŷch yn ymhyfrydu ynddynt ar hyn o bryd.
Mi enwais symledd a chrynoder ymhlith yr ansoddau sy'n perthyn i arddull da, am fy mod yn bwrw bod pob un o'r rhai a enwais yn cynnwys y ddau hyn, ac yn cau allan bob peth gwrthwyneb iddynt. Er enghraifft, ni ddichon dim fod yn goeth, nac yn briodol, nac yn naturiol, oni bydd hefyd yn syml ac yn gryno. Ond y mae'n fwy angenrheidiol ichwi fod yn gryno—yn awgrymus, o'r hyn lleiaf—wrth sgrifennu nag wrth lefaru. Ped ymdrown i ddywedyd paham, fe beidiwn â bod yn awgrymus fy hun. Os dyfalasoch fy rhesymau, nid wyf yn neidio dim wrth ddyfod i'r casgliad hwn: sef mai ychydig o bethau ar a baratowyd i'w gwrando sy'n deilwng i'w darllen. Dichon y daw amser pryd y medr gwrandawyr