Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y grisiau, yn ochr Meistr Arthus Bertrand, llyfrwerthwr, un o'm rheithwyr, yr hwn oedd yn myned i giniawa, wedi fy nghyhoeddi'n euog. Cyferchais well iddo; fe'm harfollodd yntau, canys dyn diddichell odiaeth yw e'. Ac ar y ffordd, erfyniais arno ddywedyd wrthyf pa beth oedd yn ymddangos iddo ef yn senadwy yn y Discours a gondemniasid.

'Ni ddarllenais mohono (meddai yntau wrthyf); eithr pamffled ydyw, ac y mae hynny'n ddigon i mi.'

Yna gofynnais iddo pa beth ydoedd pamffled, ac ystyr y gair, gan ei fod i mi yn lled aneglur, er nad yn ddieithr. Eb yntau:

'Un neu ddwy ddalen argraffedig ydyw, fel yr eiddoch chwi.'

'Ai pamffled fyddai tair dalen?' ebe finnau. 'Ef allai (meddai yntau), yn ôl y farn gyffredin; ond a siarad yn fanwl, un ddalen yn unig sydd i bamffled. Gwna dwy neu chwaneg ohonynt lyfryn.'

'Beth am ddeg dalen? pymtheg dalen? ugain dalen?'

'Gwnânt gyfrol (meddai yntau)—gwaith.'

'Ar eich anrhydedd a'ch cydwybod, Meistr Arthus Bertrand, gan eich bod yn rheithiwr, pa