amlwg yn y gyfrol gyntaf o'i draethodau effaith hyn yn y maes cymdeithasol a pholiticaidd. Fe'i gwelir hefyd yn y maes llenyddol, yn enwedig lle bo cyfeirio at ragorion iaith a meddwl creadigol y bobl. Fe gofia Emrys am y rhagorion hyn hyd yn oed wrth fesur gwerth iaith y clasuron a'r Beibl Cymraeg.
Eto mynnai i'r bobl fod yn bobl wrteithiedig, ac nid yn rhy "werinaidd," sef yw hynny, yn ddidoledig oddi wrth eu perffeithwyr. Dyna pam y soniai gymaint wrthynt yn eu newyddiaduron a'u cylchgronau am y clasuron Cymraeg. Yn nyddiau'r clasuron rhyddiaith Gymraeg o oes y Dadeni Dysg hyd at ymhell yn y ddeunawfed ganrif, fel gyda beirdd y gynghanedd ymhob oes, yr oedd cyfansoddiad llenyddol yn ffrwyth astudiaeth o'r iaith, sef chwilio ei golud, a darganfod ei hadnoddau, trwy ymgydnabyddu â gwaith y meistri. Yr oedd gan awdur pob un o'r clasuron hyn ei fodelau neu ei gynlluniau. Ysgolheictod oedd hwn o'r fath sy'n cyfuno ac nid yn daduno. Fe'i collwyd erbyn oes Emrys, ac yr oedd ef yn hollol ar ei ben ei hun yn ei ble am astudiaeth o'r Gymraeg a'i chlasuron fel amod unrhyw fawredd llenyddol.
Yr oedd yna fudiad arall ar gynnydd, sef ysgolheictod Syr John Rhys, a weithiai ar linellau