Ellmynig, yn astudio gwyddor iaith, ond Emrys oedd y cyntaf, hyd y gwn, yn ei gyfnod i ymroi at y clasuron fel y bydd prentis yn troi at waith ei feistr. Ymdriniai lawer â gwerth arbennig yr amrywiol glasuron fel modelau. Gwelai un fel sgrifen gron cymwys i laslanc ymarfer â hi, ac un arall fel ysgrifen redeg diogel i ddisgybl profedig ei mentro tua diwedd ei gwrs; gwelai un fel arddull priodol at adrodd hanes a'i addurno, ac arall at ddadansoddi meddwl yn gywrain. Daeth Syr John Morris-Jones â pheth o'r ysbryd hwn i fyd astudio barddoniaeth Gymraeg, ond y mae Emrys yn aros heb ei olynydd yn ei briod faes ei hun, sef rhyddiaith Gymraeg.
Yr oedd manyldeb yn bwysig ganddo. Trwy hyn fe ddeallodd gyfrinach geiriau. Parai iddynt amlygu eu hystyr i drwch y blewyn. Astudiai rym pob terfyniad, ac am hynny y gwyddai'r rhagor rhwng duwiol a duwiolaidd, cyfeillgar a chyfeillaidd, dynol a 'dynaidd. Yr un modd y detholai seiniau, geiriau, a rhithmau arbennig at ei bwrpas arbennig. Câi fanyldeb mwy yn iaith y bobl nag yn ymadroddion mwy unffurf y Beibl a Drych y Prif Oesoedd. Olrheiniai gynnydd manyldeb yn iaith y clasuron o waith Morgan Llwyd hyd at Ellis Wynne. Darganfu fod Cymraeg manwl yn