Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYMRAEG Y PREGETHWR

(ANERCHIAD A DRADDODWYD I'R EFRYDWYR YN ATHROFA DDIWINYDDOL Y BALA, CHWEFROR 25, 1893)

FY MRODYR IFAINC,

Yr oedd Dr. Edwards, eich prifathro, yn gryf, a minnau'n wan pan gafodd o gennyf addo dyfod yma i'ch annerch. Mi allaf ddywedyd Na wnaf cystal â neb trwy lythyr, a hyd yn oed yn wyneb dyn, os rhoddir imi hamdden i ystyried; ond pan ddelo ambell un ar fy ngwarthaf yn ddisymwth, byddaf yn dueddol i addo peth y bydd yn edifar gennyf wedi hynny fod wedi ei addo. Dyma fy esgus am ymgymryd â gorchwyl a fuasai'n gweddu'n well i rywun hŷn ac enwocach.

Nid wyf yn bwriadu'ch dysgu pa fodd i bregethu; canys yr wyf yn gobeithio ac yn credu hefyd fod llawer ohonoch eisoes yn bregethwyr mwy cymeradwy na myfi. Eithr y mae arnaf ofn eich bod, gan mwyaf, yn pallu mwy mewn un peth na minnau, sef mewn gwybodaeth drwyadl o'r iaith yr ydych yn gyffredin yn pregethu ynddi. Os mynnwch wybod yr hyn oll a ddywedir amdanoch