Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng ngwlad fy ymdaith i, sef y Mesopotamia sy rhwng Clwyd a Chonwy, dyma fo: na bu erioed do o bregethwyr gwell nag sydd yn y Bala ar hyn o bryd; fod eu pregethu yn ganmoladwy iawn o ran defnyddiau, traddodiad ac ysbryd, eithr fod geiriau ac ymadroddion rhai ohonoch yn swnio'n estronol i Gymry uniaith; a chan fod llawer o'r Cymry yn bobl gerddgar, y mae'r rheini'n cwyno bod brawddegau rhai ohonoch yn fwy afrywiog ac afrosgo nag y dylent fod. A rhoi bod y dystiolaeth hon yn wir, y mae'n ddiamau fod mwy o fai ar eraill nag sydd arnoch chwi; canys y mae'n debygol mai i ddysgu iaith estronol, ac nid i ddysgu'n llwyrach iaith eich gwlad, y'ch anfonwyd i'r ysgol pan oeddech yn blant; ac mai trwy iaith oedd yn ddieithr ichwi yr oedd yn rhaid ichwi geisio dysgu'r iaith honno ei hun, a phob peth arall. Os adwaenwch un dyn call a dysgedig a faidd gyfiawnhau'r ffolineb anferth hwn, mi a rof bob dimai sy gennyf ar fy helw tuag at y Coleg. Y mae'r Saeson eu hunain yn beio ar y peth pan wneir ef yn Ffinland a Poland, ac yr wyf innau am yr un rhesymau yn beio arno yng Nghymru. Y mae Alexandre Vinet, Wolfgang Menzel, ac awdur arall yr ydych chwi yn astudio un o'i lyfrau, sef Martensen, yn dywedyd yn bendant, ac ymron yn