Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, pe dysgid hwy'n gyntaf dim i ymberffeithio mewn iaith anodd a chywrain fel y Gymraeg, a phe dysgid Saesneg iddynt trwy'r Gymraeg, fe allai ysgolion Cymru fod o ran dull ac effeithioldeb eu haddysg yn fath o athrofeydd bychain na byddai mo'u rhagorach mewn un wlad.

Ni buaswn i ddim yn beiddio llefaru mor bendant pe na buaswn wedi ymofyn â gwŷr mwy na mi fy hun; canys mi a glywais rai o ddysgawdwyr Heidelberg, Bonn, Giessen a Geneva yn dywedyd ei bod yn rhyfedd ganddynt fod y Cymry'n gallu ymddygymod â'r sistem addysg a ddarparwyd i'r Saeson. Nid yw ryfedd gennyf i hynny o gwbl, canys y mae gwerin Cymru wedi mynd yn rhy groendew ac yn rhy bendew i deimlo camwri nad ydyw ddim yn peri niwed uniongyrchol i'w corff a'u hamgylchiadau; ac am hynny y mae'n haws eu cyffroi i ddadsefydlu Eglwys Loegr nag i ddadsefydlu neu i ddiwygio ysgolion Lloegr. Gan eich bod chwi'n bregethwyr, yr wyf yn hyderu y gwnewch eich gorau i argyhoeddi'r bobl mai drygau ysbrydol—drygau sy'n peri niwed i'w hysbryd a'u meddwl—ydyw'r drygau mwyaf, ac nad yw'n weddus brysio i fwrw ymaith ddrygau llai tra byddo rhai mwy yn aros. Os mai'r gŵr sy'n cynrychioli'r sir hon yn y Senedd a gymhellodd ar