Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Acland i addo'r hyn a addawodd y dydd o'r blaen, yna fo wnaeth gymwynas fwy i Gymru nag a all o nac un seneddwr arall ei gwneud eto. Os gwleidyddiaeth ydyw hyn, chwi a syniwch ei bod yn wleidyddiaeth o'r fwyaf crefyddol os ystyriwch y fath ddylanwad sydd i'r drefn bresennol ar ddealltwriaeth a chrefydd ein cydwladwyr. Chwi a gewch mewn llawer man blant na fedrant y Gymraeg yn ddigon da i allu deall pennod neu bregeth Gymraeg yn hawdd, ac na allant byth ddysgu Saesneg chwaith fel y gallasent ddysgu Cymraeg; canys y mae Cymraeg eu cyndadau wedi gwneud ei hôl ar eu hymennydd ac ar eu peiriannau llafar; ac os coeliwn anianegwyr, fe erys olion yr heniaith ar eu plant a phlant eu plant, fel mai ofer yw disgwyl i iaith estronol fynd yn iaith naturiol hyd y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth. Chwi a gewch ym mhob Ysgol Sul Gymraeg athrawon anfedrus yn ymdroi am fisoedd, ie, am flynyddoedd i ddysgu llythrennau a sillafau i blant, a chan y bydd y plant hynny yn mynd yn laslanciau a llancesi cyn gorffen dysgu darllen, y mae darllen yn mynd yn gasbeth ganddynt. Nid i Ysgolion Sul y perthyn addysgu mewn darllen, hyd yn oed pe bai ynddynt athrawon a allai addysgu'n fedrus ac mewn byr amser. Addysgu yng nghynnwys y