Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beibl yn unig ydyw gwaith yr ysgolion hyn, ac fe ellid mynd at gynnwys hwnnw'n llawer cynt pe dysgid y plant i ddarllen yn yr ysgolion beunyddiol, ac yn y rheini fe ellid eu dysgu i ddarllen Cymraeg mewn ychydig ddyddiau. Wrth gymryd y baich hwn ar eu hysgwyddau eu hunain y mae crefyddwyr Cymru yn gwneud peth ffôl a diddiolch dros ben.

Er gwaeled ydyw'r Ysgolion Sul, y mae'n debygol mai yno y cawsoch chwithau yn eich mebyd y rhan fwyaf o'ch addysg Gymreig, a chan fod y fantais a gawsom i ddysgu'n hiaith ein hunain yn llai na'r fantais a gafodd pregethwyr un genedl arall i ddysgu eu hiaith hwy, y mae'n rhyfedd iawn fod ein Cymraeg cystal ag ydyw; ac y mae'n rhyfeddach fyth fod corff ein gwrandawyr yn ein deall cystal, am fod rhifedi'r miloedd o eiriau sydd yn y Beibl yn fwy na rhifedi'r cannoedd o eiriau sydd ar arfer ganddynt hwy.

Er mwyn eich annog i ymberffeithio yn yr iaith odidog a adawyd inni yn etifeddiaeth, mi a wnaf ychydig sylwadau ar GYMRAEG Y PREGETHWR, gan olygu ei iaith a'i arddull. I chwi, y rhai a ddysgwyd i brisio pob gwybodaeth er ei mwyn ei hun, fe ymddengys gwybod hen iaith eich gwlad yn un o'r pethau mwyaf anhepgorol. Er y gellwch ddysgu