Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymraeg a'r Ellmyneg? Mewn gwirionedd, nid arddull mo'r dull o draethu a fyddo'n anghydweddu â phriodwedd yr iaith, ond iaith wneuthur yn dyfod o fympwy ac nid o ddawn. Nid gwisg yn hongian yn llac am y meddwl ydyw iaith briodol, ond corff wedi ei gydgenhedlu ag ef—corff ysbrydol, tryloyw, sy'n gwasanaethu'n unig i roi ffurf ar y dyn oddi mewn, ac nid i'w guddio na'i addurno chwaith. Pan sonier am arddull, meddylier am yr hyn sy luniaidd ac nid am yr hyn sy liwiog; canys y mae cymesuredd y bregeth a chyflead y meddyliau ynddi yn nodau amlycach ar arddull na thlysni'r defnyddiau a chyflead y geiriau. Y mae pob cyfanwaith yn gywreinwaith; ac ni bydd un cyfansoddiad, pa un bynnag ai pregeth ai traethawd ai cân, ddim yn werthfawr a hirhoedlog os na bydd o'n gywreinwaith. Ymhlith llenorion fel ymhlith crefftwyr, y pensaer celfydd, ac nid y cloddiwr cerrig, a gyfrifir yn bennaf. Saernïaeth dda ydyw enaid arddull, a chyda'r enaid hwnnw y mae arddull yn anfarwol. Y mae crug o feini marmor yn ymchwalu, ac yn ebrwydd yn ymgolli; ond y mae adeilad o feini pridd yn sefyll dros lawer oes. Yr un ffunud, y mae meddyliau annelwig a fyddo'n gorwedd yn llanastr ar bapur, pa mor dda bynnag eu defnydd, yn mynd yn fuan