Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eiddo cyffredin, neu ynteu ar goll; ond y mae arddull yn aros byth yn eiddo priodol i'r neb oedd piau fo yn y dechrau.

Gan mai trefn a chymesuredd ydyw prif nodau arddull gwych, y mae hwn yn gorffwys gymaint ar resymeg ag ar ramadeg; ac am hynny, un o'r ffyrdd cyffredinol gorau i fagu arddull ydyw darllen llawer ar lyfrau awduron sydd, fel yr apostol, "yn ymresymu yn hir "—yr awduron sy'n hytrach yn cyfuno nag yn daduno. Fe geir mwy o'r cyfryw rai ymhlith y Ffrancwyr nag ymhlith cenhedloedd eraill, ac er eu bod hwy yn cyfrannu llai o wybodaeth i ddarllenwr nag y mae awduron Ellmynig a Seisnig yn ei chyfrannu, eto y maent yn agor ac yn coethi mwy ar ei feddwl. Y mae perygl i bregethwyr ar ôl gadael y coleg ymroi yn gyfangwbl i ddarllen llyfrau sy'n rhoddi iddynt ddefnyddiau i wneuthur pregethau. Rhaid yw i bregethwyr ddarllen esboniadau, bid sicr, ond hyd yn oed wrth arfer y rheini, y mae'n haws gennym o lawer ddarllen eglurhad ar adnodau unigol na darllen yr arweiniad i holl gynnwys y llyfr a esbonier. Gwell gennym ysbïo dinas Hebron a Dyffryn Escol er mwyn dwyn adre gyda ni swp o